Gwybodaeth am yr Academi
Nod y rhaglen yw hybu twf busnesau ac ysbryd cystadleuol drwy alluogi cyflogwyr fel chi yng ngogledd Cymru i adolygu'ch trefniadaeth a'ch strategaeth er mwyn gwella medrau a gallu'ch busnes i gystadlu.
Nod y rhaglen yw hybu twf busnesau ac ysbryd cystadleuol drwy alluogi cyflogwyr fel chi yng ngogledd Cymru i adolygu'ch trefniadaeth a'ch strategaeth er mwyn gwella medrau a gallu'ch busnes i gystadlu.
Mae'r Academi'n canolbwyntio ar gyflwyno sesiynau dysgu cryno i fusnesau, mewn dau gam pendant:
Ar ôl cofrestru gyda NWBA, bydd yr aelodau'n cwblhau Cam 1, sef y Dadansoddiad Busnes Strategol (SBA), cyn symud ymlaen i Gam 2.
Mae'r Modiwl SBA yn gyfle i'r arweinydd gamu'n ôl ac adolygu pob agwedd ar ei fusnes mewn modd strategol. Gwneir hyn ochr yn ochr â mentor busnes, tiwtoriaid a rhwydwaith o arweinwyr eraill, gan roi pwyslais ar dwf hir dymor a chynaliadwyedd. Ar ôl cwblhau'r SBA, bydd eich busnes yn cael mynd ymlaen i Gam 2.
Yma, gall busnes ddewis modiwlau arbenigol o unrhyw un o'r pedwar sefydliad sy'n bartneriaid yn y fenter. Mae'r modiwlau arbenigol yn ymwneud â saith prif thema:
Mae NWBA'n bartneriaeth rhwng Grŵp Llandrillo Menai, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam. Ar Fwrdd y Prosiect, mae cynrychiolwyr o'r pedwar partner ac o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Siambr Fasnach, Cyngor Busnes Cymru a Ffederasiwn y Busnesau Bach. Mae'r prosiect arloesol hwn wedi ei ariannu'n llawn hyd at 100% (yn amodol ar feini prawf cymhwysedd) gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
© 2020 Academi Busnes Gogledd Cymru